Bachu Bws
Beth yw Bachu Bws?
Cynllun rhannu bysiau mini yw Bachu Bws a’i fwriad yw bodloni anghenion grwpiau cymunedol a hoffai fenthyca bysiau mini. Bydd tâl i’w dalu am y gost o redeg y bws.
Mae’r grwpiau hynny sy’n berchen ar fws mini yn gallu cynhyrchu incwm trwy ymuno â’r cynllun, a dodi eu bws hwy ar fenthyg pan nad yw e’n cael ei ddefnyddio.
Bydd Bachu Bws yn cynnig cludiant fforddiadwy i grwpiau sy’n dymuno defnyddio bws mini i deithio yn Sir Benfro neu ymhellach na hynny.
Mae Bachu Bws ar gael ichi – mewn 3 chamrhwydd:
1. Cofrestrwch eich Grwp
I gael Ffurflen Gofrestru cofiwch ein ffonio ar 0800 783 1584 neu cliciwch isod.
Fflurflen Gofrestru Bachu Bws
2. Gallwch chwilio am fws neu beth am ichi ein ffonio ar Radffon 0800 783 1584 er mwyn gwneud cais am gludiant.
3. Penderfynwch yn derfynol ar y trefniadau gyda Benthycwyr y Bysiau Mini.
Ein bysiau mini
Mae gyda ni amrywiaeth o fysiau mini sydd wedi cael eu cofrestru â’r cynllun, gan gynnwys cerbydau hygyrch i gadair olwyn a bysiau mini bychan sy’n gallu cael eu gyrru gan wirfoddolwyr sydd â thrwydded gyffredin ar gyfer gyrru ceir. Mae’r bysiau mini ar gael mewn mannau ledled Sir Benfro.
Gyrwyr
Fel rheol byddwn yn disgwyl i grwpiau ddarparu eu gyrrwr eu hunain. Fel arfer bydd gofyn ichi ddewis ac enwi gyrrwr neilltuol pan fyddwch chi’n gwneud cais am gludiant. Mae’n rhaid i’r holl yrwyr feddu ar Dystysgrif MiDAS ddilys.
Os nad oes gyrrwr gan eich grwp yna mae gyda ni garfan fach o yrwyr gwirfoddol a allai fod yn fodlon rhoi help ichi.
Fyddech chi'n fodlon ymuno â'r gronfa hon? Os felly, ffoniwch 0800 783 1584 er mwyn gwybod mwy.