Gwirfoddoli ar gyfer Ceir Cefn Gwlad Sir Benfro

Os oes gyda chi ddiwrnod neu ddau, neu hyd yn oed ambell awr i'w chynnig ddwywaith yr wythnos, yna GALLWCH CHI HELPU.

Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn chwilio am y gwirfoddolwyr canlynol:

 

Gyrwyr Gwirfoddol:

Oherwydd llwyddiant y cynllun Ceir Cefn Gwlad, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i yrru eu ceir eu hunain, a gyrwyr i rannu gyrru ein ceir hygyrch i gadeiriau olwynion a addaswyd yn arbennig. Mae gennym leoedd gwag ar hyd a lled Sir Benfro. Mae ein ceir hygyrch yn Hwlffordd a Ddoc Penfro a Bwlch-y-groes.

Y cyfan sydd arnoch ei angen yw trwydded yrru safonol, rhywfaint o amser sbâr a dymuniad i helpu.

Rydym yn ad-dalu fesul milltir a holl dreuliau. Bydd holl yrwyr ein ceir hygyrch yn cael canllawiau ar lwytho a sicrhau cadeiriau olwynion yn y car.

 

Helpu pobl adref o’r ysbyty (prosiect PIVOT)

Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol hefyd yn chwilio am yrwyr gwirfoddol i gynorthwyo cludo pobl adref o’r ysbyty a sicrhau eu bod yn ddiogel a chysurus pan fyddant yn cyrraedd. Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos yn y prynhawn a min nos, a chaiff dyletswyddau eu rhannu rhwng gwirfoddolwyr ar rota.

 

Er mwyn cymryd rhan neu gael rhagor o wybodaeth, cofiwch ffonio Simon ar 07585997091 neu ebost simon.rickard@royalvoluntaryservice.org.uk

 

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities