Cynlluniau Ceir
A ydych yn dymuno dal ati i fod yn rhydd i weithredu fel y mynnoch?
A yw cludiant cymunedol yn peri anhawster mawr ichi?
Yna mae Ceir Cefn Gwlad yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw drigolion yn Sir Benfro sydd heb gar i’w ddefnyddio ac sy’n cael anhawster defnyddio cludiant cyhoeddus neu sy’n byw rhywle nad yw’n cael gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn aml.
Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth
Ydych chi’n ofalydd digyflog sydd heb gludiant?
Ydych chi’n gorfod teithio i gyd-fynd â’ch gofal seibiant?
Cynllun ceir cymunedol yw Ceir ar gyfer Gofalwyr sy’n darparu cludiant i ofalwyr digyflog yn Sir Benfro.
Os oes gyrrwr ar gael yn eich ardal, a’ch bod chi angen trafnidiaeth ar y pryd, daw gyrrwr gwirfoddol i’ch nôl chi a mynd â chi, a’r sawl sydd dan eich gofal os oes angen, i ben eich taith.
Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth
A ydych chi’n rhan o gymuned sy’n chwilio am gludiant nad yw’n niweidio’r amgylchedd?
A hoffech chi allu defnyddio cerbyd – â biliau isel neu ddim o gwbl – mewn perthynas â threth, yswiriant, cynnal a chadw ac atgyweirio?
Mae Rev Cymru eisoes yn arloesi ym maes ynni adnewyddadwy ond nawr mae e wedi mynd un cam ymhellach trwy sefydlu clwb ceir trydan er mwyn i bobl yng nghefn gwlad allu mynd ar hyd y fan.
Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth
Ceir Hygyrch i Gadair Olwyn – Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro
A oes gyda chi ffrind neu berthynas sy’n defnyddio cadair olwyn, sydd heb gar hygyrch ei hunan?
A hoffech chi fynd â hwy ar hyd y fan, neu fynd â hwy i ddigwyddiad teuluol pwysig?
Mae gyda ni fflyd fechan o geir hygyrch i gadair olwyn, i’w llogi am gyfnod byr, ar sail gyrru’ch hunan (o awr neu ddwy hyd at ychydig ddyddiau).
Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth
Clwb Ceir Clydau - Y Ddraig Werdd
A yw’ch car chi yn y garej?
A oes arnoch angen ail gar neu un mwy am ychydig ddyddiau?
Ym Mwlch-y-groes ar bwys Crymych y mae Clwb Ceir Clydau – Y Ddraig Werdd, ac mae gydag e ddau o geir y gall yr aelodau eu llogi (cofiwch ymuno ag e – mae’n rhad a rhwydd).
Cliciwch man hyn am ragor o wybodaeth