Trafnidiaeth Wirfoddol Sir Benfro Ceir Hygyrch


Pwy sy’n gallu llogi ein ceir sy’n hygyrch i gadair olwyn?

Mae ein ceir hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael ar gyfer defnydd preifat pan nad oes eu hangen ar wasanaeth Ceir Gwledig Sir Benfro. Fel arfer, mae’r ceir ar gael gyda’r nos neu ar y penwythnos. Cyfyngir eu hargaeledd yn ystod yr wythnos, ond peidiwch ag oedi rhag gwneud ymholiad.

Rhaid bod defnyddiwr y gadair olwyn neu’r person anabl yn byw yn Sir Benfro. Rhaid bod y gyrrwr dros 21 oed ac yn meddu ar drwydded yrru lawn ers o leiaf dwy flynedd.

A oes unrhyw hyfforddiant ar gael?

Oes, bydd angen i’r gyrrwr fynychu sesiwn hyfforddiant byr er mwyn cyfarwyddo â’r cerbyd a’r mynediad I gadeiriau olwyn ac offer diogelwch cyn mynd â’r cerbyd allan am y tro cyntaf. Wedi derbyn hyfforddiant, bydd eich gyrrwr yn cael ei gynnwys fel rhan o’n polisi yswiriant.


Beth y gallwch ddefnyddio’r ceir i’w wneud?


Nid oes cyfyngiadau ar bwrpas eich taith. Mae’r gwasanaeth yn ddelfrydol ar gyfer pobl nad ydynt yn berchen ar gar hygyrch i gadeiriau olwyn, ond sydd angen defnyddio car o’r fath ar adegau.

 

Pa fath o gerbydau sydd gennym ni?

Mae gennym ystod o geir sy’n addas ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn a thri theithiwr arall yn ogystal â’r gyrrwr (gall cadeiriau olwyn fesur 74cm o led, 126cm o hyd, gyda 136cm o le uwch ben). Mae gan y ceir hygyrch winsh drydan a ynediad â ramp yn y cefn.


Beth yw’r gost?

Gosodir prisiau ar lefel ddigonol er mwyn talu costau tanwydd a chynnal a chadw, yn ogystal â chyfrannu at gyfnewid y cerbyd yn y pen draw. Croesawir unrhyw gyfraniadau ychwanegol tuag at gostau cadw’r cerbydau ar y ffordd. Cysylltwch â ni er mwyn cael manylion y costau cyfredol.

 

Cadair olwyn fawr? Mwy nag un defnyddiwr cadair olwyn? Grwp mwy o faint?

Gallwn eich cysylltu â’ch grwp bws mini cymunedol lleol, sy’n cynnig bysiau mini hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Gallwch ymgofrestru man hyn er mwyn defnyddio ein cynllun Bachu Bws Mini sy’n darparu amrywiaeth o fysiau mini hygyrch.

 

 

Er mwyn Llogi Cerbyd Hygyrch - Ffoniwch Radffôn

0800 783 1584

 

 

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities