Galw am Fws Neyland

 

Teithio ar ddydd Mercher rhwng 9.30 am a 3.30 pm

Os oes gyda chi Gerdyn Teithio Rhatach yna cewch deithio AM DDIM Neu gallwch dalu’r pris teithio llawn os nad oes cerdyn teithio ’da chi Gall pawb na allant deithio ar fysiau cludiant cyhoeddus deithio ar y bysiau hyn, am ba reswm bynnag.

Sut i fynd ar siwrnai?

Archebwch a chadw lle trwy ffonio rhadffôn 0800 783 1584, hyd at wythnos ymlaen llaw.

Rhaid rhoi’r siwrneiau ar gadw erbyn 12 o’r gloch ar y diwrnod cyn y byddwch eisiau teithio. Ceisiwch fod mor hyblyg ag y bo modd ynghylch yr amser y byddwch yn dymuno teithio.

Fe ddown i’ch mo’yn o’ch cartref ar yr amser a gytunwyd. Rydym yndefnyddio cerbyd y gall cadeiriau olwyn fynd arno, ac mae ein gyrrwr wrth law i roi cymorth i deithwyr pan maent yn mynd.

Nid oes llwybr nac amserlen benodol: gallwn eich danfon a dod â chi’n ôl ar amser o’ch dewis, i unrhyw fan yn yr ardal:

Neyland
Honeyborough
Burton
Houghton
Sardis
Hill Mountain
Rosemarket
Port Lion
Llangwm
Hook
Troopers Inn
Johnston
LLanstadwell
Waterston
Mastlebridge

 

 

Am ymholiadau ac archebion, ffoniwch:

0800 783 1584




Share this page...

Current Volunteering Opportunities